Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

 

BIl Anghenion Dysgu Ychwanegol

 

Mae UCAC wedi cyflwyno tystiolaeth ar y cyd gyda ATL, NAHT a UCU.  Hoffwn, hefyd, achub y cyfle i gyflwyno rhai sylwadau ychwanegol am y Gymraeg a chyfrwng Iaith cefnogaeth i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Anghenion Cyfathrebu (cyfrwng Cymraeg)

 

Wrth gydnabod bod geiriad presennol y Bil o ran cyfrwng Iaith yn gryfach nag oedd y fersiwn drafft, cred UCAC nad yw’r Bil yn amlinellu’n ddigon cryf na chlir anghenion o ran cyfrwng Iaith. Mae gwir angen cryfhau rhannau o’r Bil er mwyn sicrhau bod y geiriad yn glir a bod llwybr cyfrwng Cymraeg ar gael i ddisgyblion gydag ADY.  Gall llwyddiant addysgiadol disgybl gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol gael ei danseilio os nad yw’r ddarpariaeth ar gael yn y dewis Iaith.

 

Mae gallu Awdurdodau Lleol i ddarparu asesiadau priodol a chymorth arbenigol trwy gyfrwng y Gymraeg yn amrywio a gall fod yn gyfyng iawn. Yn ôl tystiolaeth a gasglwyd gan y Comisiynydd Iaith a Chomisiynydd Plant Cymru ar y cyd, mae rhieni a disgyblion yn adrodd am broblemau cael mynediad at y ddarpariaeth sydd angen arnynt trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cyd-fynd âphrofiadau aelodau UCAC o ran sicrhau darpariaeth addas i ddisgyblion a chael mynediad at gefnogaeth. Mae argaeledd y ddarpariaeth yn anghyson ac mae’r mwyafrif o Awdurdodau Lleol yn derbyn eu bod yn eu cael yn anodd darparu cefnogaeth addas trwy gyfrwng y Gymraeg mewn rhai meysydd o leiaf.

 

Mae UCAC yn ymwybodol o broblemau oherwydd diffyg profion diagnostig cyfrwng Cymraeg a phrinder gweithlu cyfrwng Cymraeg i gynnal y profion. Mae problemau amlwg o ran niferoedd yn y gweithlu sydd yn gallu darparu addysg anghenion dysgu ychwanegol a darparu gwasanaethau cefnogi trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn wir am Seicolegwyr Addysg, athrawon, darparwyr eraill o wasanaethau arbenigol e.e. therapyddion lleferydd, cynorthwywyr dosbarth lefel uwch, sydd wedi arbenigo mewn gweithio gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae angen cynllunio’r gweithlu addysg (a'r gweithlu addysg ehangach) yn llawer mwy effeithiol; mae’n bwysig cynllunio niferoedd sydd angen hyfforddi a chynllunio ar gyfer datblygiad gyrfa ac ehangu sgiliau trwy hyfforddiant Datbygliad Proffesiynol Parhaus).  Mae’n bendant angen ystyried sut i wella sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol a sicrhau bod digon o siaradwyr Cymraeg ar gael yng ngweithlu’r dyfodol.  Mae hyn yn wir, hefyd, am y rhai bydd yn gweithio mewn swyddi cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNco).  Yn ogystal â hyn, mae’n bwysig bod yr asiantaethau bydd yn ymwneud â’r plant a phobl Ifanc a’u teuluoedd yn gallu sicrhau cyfathrebu effeithiol yn y Gymraeg.

 

Mae angen:

·         canllawiau clir ar sut i benderfynu ar Iaith y ddarpariaeth ar ôl ystyried beth ddylai arwain y drafodaeth ar Iaith y ddarpariaeth - ai iaith y cartref (ond beth os oes un rhiant yn siarad Cymraeg a'r llall yn siarad Saesneg); ai Iaith yr addysg; ai dewis y rhieni neu’r plentyn?

 

·         ystyried sut i fod yn deg o ran nodi’r cyfrwng iaith ar Gynllun Datblygu Unigol er mwyn peidio â gwneud y Gymraeg i fod yn eithriad. Awgrymwn y dylai fod angen nodi ar y ddogfen naill ai’r Gymraeg neu’r Saesneg fel cyfrwng Iaith, er mwyn osgoi sefyllfa lle byddai’r Saesneg yn ddewis awtomatig (default position) onibai bod y Gymraeg yn cael ei nodi.

 

Mae angen cofio nad yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod gofynion ar Gyrff Llywodraethu ysgolion ac Awdurdodau Lleol o ran addysg mewn ysgolion. Ym marn UCAC, felly, mae’n rhaid cynnwys ar wyneb y Bil unrhyw faterion perthnasol am gyfrwng iaith, er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg a pheidio trin y Gymraeg a siaradwyr Cymraeg yn llai ffafriol.

 

Mae’n allweddol sicrhau ymroddiad cadarn o ran arian ac adnoddau er mwyn i ysgolion a sefydliadau addysg bellach allu ateb gofynion dysgwyr gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ei dewis Iaith.

 

Nid yw geiriad presennol y Bil yn mynd i’r afael a’n pryderon a’r methiannau sydd yn bodoli ar hyn o bryd o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Mae’r Bil yn cynnig cyfle ond mae’n rhaid cryfhau’r geiriad er mwyn cyrraedd y nod.

 

UCAC

Mawrth 2017